Grantiau

Nid oes unrhyw grantiau ar gael ar hyn o bryd.

Effaith Cyllid Grant Cogog ar y Gymuned

Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU)

Defnyddiodd DASU y cyllid grant i gyflwyno rhaglen fwyd a lles i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig ar draws Sir Ddinbych. Trwy dyfu a choginio bwyd a gweithgareddau cyllidebu, fe ddatblygodd deuluoedd sgiliau ymarferol, gwella lles a magu hyder wrth iddynt adfer.

Mewn 15 o weithgareddau, fe ymgysylltodd 18 o gyfranogwyr newydd â bwyta’n iach, tyfu bwyd a sesiynau lleihau gwastraff.  Fe helpodd y prosiect deuluoedd i arbed 85kg o wastraff bwyd drwy eu haddysgu am gynllunio prydau, storio bwyd a gwneud y mwyaf o fwydydd ar ôl, tra’n lleihau unigedd a chryfhau rhwydweithiau cefnogaeth gymunedol.

Cymdeithas Gymunedol Gogledd-orllewin Prestatyn

Defnyddiwyd y grant i ddarparu bwyd a lluniaeth i’r Ganolfan Glyd. Fe ddarparodd diodydd poeth a phrydau poeth i 514 o bobl o Brestatyn a’r dalgylch cyfagos.  Trwy gyfrwng holiadur, dywedodd y rhai oedd yn bresennol eu bod yn chwilio am fwyd peth ond eu bod yn gwerthfawrogi’r gwmnïaeth a chyfle i gyfarfod â ffrindiau newydd.  Nid oedd rhai oedd yn bresennol yn ymwybodol o’n cyfleuster ym Mhrestatyn, ond roeddynt yn fodlon cefnogi’r Ganolfan yn y dyfodol.

Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych             

Defnyddiodd Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych y cyllid grant i gyflwyno 22 o weithdai coginio a 14 o sesiynau Canolfan Clyd, gan helpu pobl i gael mynediad at fwyd iach, datblygu sgiliau coginio a chreu cysylltiadau cymunedol. 

Fe ymgysylltodd y prosiect â 182 o aelodau’r gymuned a chyflwyno 787 o ymyraethau lles, gan gefnogi ystod eang o grwpiau yn cynnwys teuluoedd, pobl ifanc, oedolion hŷn, dynion ac unigolion ag anghenion iechyd meddwl.  Fe ataliodd 1,400kg o wastraff bwyd hefyd drwy ei gynllun oergell gymunedol ac ailddosbarthu bwyd oedd yn weddill, tra’n meithrin ymdeimlad cryfach o berthyn a gwytnwch cymunedol.

Cwmni Buddiannau Cymunedol ReSource Sir Ddinbych

Defnyddiwyd cyllid grant i drawsnewid cynhwysydd cludo dur mewn i fferm hydroponeg dan do a chyflwyno sioe deithiol a ymgysylltodd â 122 o gyfranogwyr ar draws Sir Ddinbych a thu hwnt.  Trwy’r gweithdai ymarferol, dysgodd plant, oedolion a grwpiau diamddiffyn am hydroponeg, tyfu dan do a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Fe soniodd cyfranogwyr am gynnydd sylweddol yn eu hyder i dyfu a gwybodaeth am hydroponeg, tra’n dysgu sgiliau ymarferol megis arbed hadau, tyfu bwyd dan do, a lleihau gwastraff bwyd.  Roedd y prosiect yn arbennig o lwyddiannus yn ysbrydoli pobl ifanc drwy weithgareddau rhyngweithiol a helpu preswylwyr hŷn a llai symudol i gadw mewn cysylltiad â garddio a chynhyrchu bwyd iach.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Carters

Defnyddiodd Carters y cyllid grant i gyflwyno 5 sesiwn goginio iach mewn partneriaeth â Thîm Deietig PBC a 5 sesiwn greadigol gyda Thîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych, gan gyfuno maeth, sgiliau coginio ymarferol ac ymgysylltu creadigol.

Fe helpodd y prosiect gyfranogwyr i fagu hyder i gynllunio a pharatoi prydau iach, fforddiadwy, tra’n cryfhau perthnasoedd a chydlyniant cymunedol. Defnyddiwyd y cyllid hefyd i gefnogi hyfforddiant i staff gyda hwyluso coginio, bwyd cymunedol a sgiliau maeth, diogelwch bwyd, cymorth cyntaf, creu gwaddol parhaol a fydd yn galluogi Cwmni Buddiannau Cymunedol Carters i barhau i gyflwyno cyrsiau bwyta’n iach i aelodau a’r gymuned ehangach.

Canolfan Addysg Awyr Agored Bryntysilio

Defnyddiwyd cyllid Cogog i gyflwyno rhaglen Bwyd, Tân a Chyfeillgarwch, gan ddarparu 9 diwrnod cymunedol am ddim rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth.  Roedd pob sesiwn yn cynnwys cludiant, gweithgareddau awyr agored, cinio cartref poeth a gweithdai ymarferol ar arddio a thyfu bwyd.

Fe leihaodd y rhaglen unigedd, gwella lles a helpu i ysgafnhau pwysau costau byw drwy gynnig mannau cynnes, croesawgar lle gallai pobl gysylltu, magu hyder a dysgu sgiliau tyfu bwyd newydd. Bu gwasanaeth bws gwennol penodol rhwng Llangollen a Llantysilio yn help i leihau rhwystrau i gymryd rhan a sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd y rhai oedd ei angen fwyaf.

Cwmni Cymunedol Bedford Street

Bu cyllid Cogog yn help i ymestyn mynediad at brydau fforddiadwy, maethlon, cefnogi cyflenwyr bwyd lleol a chryfhau gwasanaethau i breswylwyr diamddiffyn.  Galluogodd cludiant cymunedol i bobl hŷn ac unig i gael mynediad i’r ganolfan, gan leihau rhwystrau a chynyddu cysylltiadau cymdeithasol.

Gyda’r cyllid hefyd, bu modd recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, ac fe enillodd 5 gwirfoddolwr newydd a 3 o gyfranogwyr profiad gwaith gymwysterau mewn Diogelwch Bwyd, Ymwybyddiaeth Alergedd a Gwasanaeth i Gwsmeriaid.  Yn ogystal â mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd, bu’r prosiect yn gwella lles, gwella sgiliau cymunedol a chysylltu pobl â chefnogaeth ehangach, yn cynnwys gwasanaethau banc bwyd a chyngor ariannol.

Prosiect Ieuenctid Dinbych

Defnyddiwyd cyllid i gyflwyno gweithdai coginio ar gyfer teuluoedd ar incwm isel, helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau coginio ymarferol, gwella llythrennedd bwyd, a pharatoi prydau iach sy’n rhad i’w paratoi gan ddefnyddio cynhwysion fforddiadwy.

Yn y gweithdai, fe ddarparwyd prydau cynnes maethlon ddwywaith yr wythnos, tra’n creu rhwydweithiau cefnogaeth gwerthfawr lle gallai teuluoedd rannu profiadau a dysgu gan ei gilydd.  Trwy fagu hyder yn y gegin a lleihau straen sy’n gysylltiedig ag ansicrwydd bwyd, fe gefnogodd y prosiect iechyd corfforol a lles rhieni a phlant.

Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion Ysgol Caer Drewyn

Defnyddiwyd grant Cogog i brynu offer i’r gegin, gan roi mynediad i bob dosbarth at eitemau paratoi bwyd ac ymestyn cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau coginio ar draws yr ysgol. 

Fe helpodd y prosiect blant i ddatblygu sgiliau ymarferol ym maes coginio, hylendid bwyd a storio bwyd yn ddiogel, tra’n rhoi hyder iddynt baratoi prydau iach. Gan ddefnyddio cynnyrch wedi’u tyfu yng ngardd yr ysgol, fe ddysgodd ddisgyblion am y siwrnai gyfan, o dyfu llysiau i’w storio a’u coginio, ac fe aeth rhai plant ymlaen i ail-greu’r ryseitiau gartref gyda’u teuluoedd.

Sied Dynion Dinbych

Defnyddiodd Sied Dynion Dinbych y cyllid grant i gefnogi pobl sy’n wynebu caledi ariannol, unigrwydd ac unigedd drwy dyfu bwyd, coginio a gweithgareddau cymunedol. Defnyddiwyd cynnyrch cartref o’r rhandir, yn benodol cnwd da o datws, mewn prydau a baratowyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gan helpu i fagu hyder mewn coginio a bwyta’n iach.

Galluogodd y prosiect aelodau i ennill cymwysterau hylendid bwyd, cefnogi gwasanaeth Canolfan Glyd, a darparu prydau cymunedol am ddim, yn cynnwys cinio Nadolig ar Ddydd San Steffan a bwffe’r Pasg i fwy na 40 o bobl. Bu’r cyllid hefyd yn helpu i leihau gwastraff bwyd drwy ailddosbarthu bwyd, rhewi cynnyrch cartref, rhoddion i’r oergell gymunedol, a defnyddio bwyd sy’n weddill o archfarchnadoedd i ddarparu prydau bwyd i breswylwyr lleol.

Cymdeithas Randir a Gardd Bodelwyddan

Defnyddiwyd y grant i greu mannau tyfu hygyrch, yn cynnwys gwlâu plannu uchel, twnnel polythen, offer llaw, a system ddyfrio, gan alluogi pobl gydag anawsterau corfforol, yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, i dyfu eu ffrwythau, llysiau a blodau eu hunain.

Mae’r prosiect wedi ymestyn cyfleoedd i breswylwyr lleol ddysgu sgiliau tyfu bwyd, wedi’u cefnogi gan ddeiliaid lleiniau rhandir profiadol sy’n rhannu cyngor ar dyfu a choginio cynnyrch.  Gyda phob llain rhandir yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd a rhestr aros i gael llain yn bodoli, mae’r prosiect yn adlewyrchu diddordeb cynyddol y gymuned mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Caiff unrhyw gynnyrch sydd dros ben ei roi i’r canolbwynt cymunedol lleol gan helpu i leihau gwastraff bwyd a chefnogi preswylwyr lleol.

Eglwys Gatholig y Santes Fair, y Rhyl

Yn sgil cyllid Cogog bu modd darparu Canolfan Groeso Cynnes bob dydd Llun, gan ddarparu gwasanaeth hollbwysig ar ddiwrnod pan mae canolbwyntiau lleol eraill ar gau.  Mae’r canolbwynt yn cynnig gofod diogel a chroesawgar i bobl o bob oedran, yn cynnwys y rhai sydd yn unig neu’n ddigartref, a chael diodydd poeth, lluniaeth ysgafn, cwmnïaeth a mynediad at weithgareddau cymunedol.

Mae ymwelwyr hefyd yn elwa o ginio dau gwrs poeth, cwisiau, bingo a chyfleoedd i gymryd rhan yng ngerddi cymunedol yr eglwys, helpu i wella lles, lleihau unigedd a chryfhau cysylltiadau cymunedol ar draws y Rhyl a’r dalgylch.

Cyfeillion Ysgol Crist y Gair

Defnyddiwyd y grant i brynu griliau platiau poeth a darparu brecwast iach wythnosol i deuluoedd a phlant, yn ogystal â chefnogaeth drwy fanc bwyd Pantri Bach yr ysgol. 

Fe helpodd y prosiect i deuluoedd gael mynediad at fwyd maethlon, dysgu sgiliau coginio newydd, a magu hyder drwy sesiynau coginio a gweithgareddau ymgysylltu i rieni.  Drwy ddod â theuluoedd ynghyd, llwyddodd y rhaglen i gael gwared ar rwystrau, annog cyfeillgarwch newydd, a chreu cyfleoedd i rieni i drafod heriau gartref tra’n datblygu dealltwriaeth well o fwyta’n iach.

Neuadd Bentref Owen

Trwy gyllid grant Cogog, bu modd cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau cymunedol am ddim dros y gaeaf i breswylwyr Cefn Meiriadog a’r dalgylch, a helpu i leihau unigedd a chryfhau cysylltiadau cymunedol.

Roedd gweithgareddau’n cynnwys sesiynau galw heibio, diwrnodau crefft, prynhawniau ffilm, adloniant cerddorol, siaradwyr gwadd a chinio Nadolig cymunedol tri chwrs. Wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion cymuned wledig, cynhaliwyd digwyddiadau yn ystod y dydd a min nos i sicrhau y gallai cynifer â phosibl fynychu.  Trwy ddarparu mannau cynnes, croesawgar, bwyd a gweithgareddau am ddim, fe helpodd y rhaglen i wella lles, hyder ac ysbryd cymunedol dros fisoedd y gaeaf.

Banc Bwyd Prestatyn a Gallt Melyd

Defnyddiwyd cyllid grant i ymestyn y Canolfannau Clyd a chaffi cymunedol, darparu ciniawau poeth a lluniaeth drwy gydol y gaeaf.  Fe helpodd y cyllid i gryfhau siop gymuned FareShare hefyd drwy brynu bwyd lleol ychwanegol er mwyn sicrhau bod gan aelodau fynediad at ddewisiadau iach, maethlon.

Bu cynnydd mawr yn y nifer oedd yn bresennol, gyda chynnydd o 15-20 o bobl ar ddydd Mawrth i 45-60. Cafodd ciniawau am ddim eu darparu hefyd i’r holl blant oedd yn mynychu ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Iau, gan helpu i gefnogi teuluoedd tra’n creu gofod cymunedol croesawgar i breswylwyr lleol.

Cymdeithas Ysgol y Santes Ffraid

Mae’r cyllid grant wedi golygu bod modd ymestyn a gwella gardd lysiau’r Ysgol Isaf, gan gyflwyno ystod ehangach o gynnyrch yn cynnwys tatws, ffa, pys, mafon duon, glasaeron a mafon coch. Mae’r prosiect yn golygu bod disgyblion yr Ysgol Isaf yn cael profiad ymarferol yn tyfu, cynaeafu a pharatoi bwyd, tra’n cyflenwi cynhwysion ffres ar gyfer prydau ysgol a rhoddion i’r banc bwyd lleol. Mae’r ardd hefyd yn hyrwyddo cynaliadwyedd drwy gompostio a lleihau gwastraff bwyd, helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau gydol oes gwerthfawr i dyfu bwyd, bwyta’n iach a hunangynhaliaeth.

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon-yn-Iâl

Defnyddiwyd y grant i ariannu hyfforddiant ar gyfer 4 tystysgrif hylendid bwyd Lefel 2. Mae’r hyfforddiant wedi gwella arferion hylendid yn ein ciniawau cawl misol ac yn ein gwasanaeth gweithgareddau i blant.  Mae ein ciniawau cawl yn dod yn fwyfwy poblogaidd, fel cinio poeth gyda chawl cartref, ac fel achlysur arbennig, yn enwedig gyda mwy o breswylwyr hŷn.

Cyngor Tref Prestatyn

Mae cyllid Cogog wedi helpu i ymestyn menter Canolfannau Clyd hyd at fis Mawrth 2026, gan ddarparu mannau cynnes, prydau poeth a chefnogaeth gymdeithasol am ddim mewn 3 lleoliad ar draws Prestatyn a Gallt Melyd.  Yn weithredol rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026, mae’r cynllun yn cefnogi unrhyw un yn y gymuned sy’n wynebu unigedd neu’r heriau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw.   Galluogodd y cyllid i wirfoddolwyr ddarparu prydau llawn ym mhob sesiwn a thalu am gostau llogi’r lleoliad. 

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae’r Canolfannau Clyd yn croesawu 120 o bobl bob wythnos ar gyfartaledd, ac mae’n gweithio gyda sefydliadau partner yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Age Cymru, Cymru Gynnes a Sir Ddinbych yn Gweithio i gysylltu preswylwyr â chefnogaeth a budd-daliadau ychwanegol.

Partneriaeth Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl

Galluogodd grant Cogog i Bartneriaeth Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl gyflwyno 3 o sesiynau galw heibio yn seiliedig ar fwyd yr wythnos dros 20 wythnos, ynghyd â gweithgareddau coginio a bwyta drwy ei grŵp ieuenctid LHDTC+ Viva.  Trwy gyfanswm o 44 o sesiynau coginio, fe ymgysylltwyd â 46 o bobl ifanc i gynllunio, cyllidebau, siopa a pharatoi prydau iach, fforddiadwy.

Darparodd y prosiect ffynhonnell ddibynadwy o fwyd tra’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol, magu hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bu modd i bobl ifanc hefyd gysylltu â gwasanaethau cefnogaeth ehangach a helpu i baratoi gardd gymunedol ar gyfer tyfu llysiau a pherlysiau tymhorol.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Wintergreen

Cynhaliwyd sesiynau wythnosol wedi’u hariannu gan y grant i gyn-filwyr, gan gyfuno prydau, gweithgareddau creadigol a chysylltiad cymdeithasol drwy alw heibio i Ganolfan Woody’s Lodge a Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Rhyl. Wedi’i lansio’n wreiddiol fel Clwb Cawl, fe esblygodd y prosiect i Gaffi Creadigol Cyn-filwyr yn dilyn adborth gan y cyfranogwyr, gan fabwysiadu dull mwy hyblyg dan arweiniad y cyfranogwyr oedd yn annog cyn-filwyr i ddewis a pharatoi amrywiaeth ehangach o brydau bwyd gyda’i gilydd.

Fe helpodd y prosiect i leihau unigedd, gwella lles a magu hyder, tra’n creu gofod creadigol newydd i gyn-filwyr a’r gymuned yn ehangach.  Gan weithio mewn partneriaeth gyda Woody’s Lodge, Byddin yr Iachawdwriaeth ac aelodau o Blind Veterans UK, fe gyfunodd y sesiynau weithgareddau bwyd a chelf i ddarparu amgylchedd croesawgar lle gallai cyfranogwyr feithrin cyfeillgarwch, mynegi eu hunain yn greadigol a chryfhau eu hymdeimlad o berthyn.

Grow Llangollen

Fe gefnogodd y cyllid gwrs “Learn to Grow Again” wythnos o hyd gan Grow Llangollen, gan helpu 15 o gyfranogwyr i adeiladu ar eu gwybodaeth gynyddol drwy gynllunio tymhorol, iechyd pridd, hau hadau a rheoli’r cynhaeaf. Fe ddarparodd y prosiect hefyd gyfres o weithdai dros y gaeaf oedd yn canolbwyntio ar arbed hadau, sgiliau ymarferol a gwybodaeth am dyfu’n lleol, gan ddod ag aelodau o safleoedd tyfu cymunedol ynghyd a chryfhau cysylltiadau ar draws y rhwydwaith tyfu lleol.

Fe ddarparodd y grant welliannau wedi’u hariannu yng Ngardd Gymunedol Llangollen a Gardd Bryntysilio, yn cynnwys offer newydd, compost, atgyweiriadau i sied ac offer i gefnogi digwyddiadau cymunedol yn y dyfodol.  Fe elwodd cyfranogwyr o ddysgu ar y cyd, lles gwell a chysylltiadau cymunedol cryfach, ac yn sgil y prosiect mae dysgwyr a garddwyr cymunedol yn dod ynghyd ar fore Gwener yn y caffi lleol.

Canolfan Gofal Dydd y Waen

Mae’r cyllid wedi gwella darpariaeth bwyd a hygyrchedd i ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae’r grant wedi ariannu peiriant cymysgu arbenigol i baratoi prydau yn ddiogel i bobl sydd ag anawsterau llyncu, rhewgell ychwanegol i storio ffrwythau sydd wedi’u rhoi er mwyn eu defnyddio gydol y flwyddyn, tŷ gwydr cludadwy a phlannwr y gall defnyddwyr cadair olwyn ei ddefnyddio, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau tyfu dan do ac yn yr awyr agored.

Mae’r prosiect hefyd wedi cryfhau safonau diogelwch bwyd drwy ddarparu hyfforddiant Hylendid Bwyd Lefel 2 i’r holl wirfoddolwyr.  Gyda’i gilydd, mae’r gwelliannau yma wedi cynyddu mynediad at brydau maethlon, lleihau gwastraff bwyd a chreu mwy o gyfleoedd cynhwysol i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau garddio a chymunedol.

Eglwys Sant Pedr, Rhuthun

Mae cyllid wedi cyfrannu at osod cegin fasnachol newydd yn rhan o brosiect adfywio ehangach.  Fe fydd y cyfleuster newydd yn cryfhau gallu’r eglwys i gefnogi’r gymuned leol, yn cynnwys lansio canolbwynt ‘Gwneud Cinio’ i deuluoedd sydd â phlant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

Gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol, bydd rhaglen ‘Gwneud Cinio’ yn darparu prydau poeth iach yn ystod gwyliau’r ysgol, tra’n helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a chysylltu teuluoedd â chefnogaeth gymunedol ehangach.  Er bod oedi gyda rhannau eraill o’r prosiect adnewyddu wedi gohirio’r lansiad, mae’r gwaith o osod y gegin wedi cael ei gwblhau ac mae gwirfoddolwyr wrthi’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi, ac mae yna gynlluniau i lansio canolbwynt ‘Gwneud Cinio’ erbyn gwyliau’r haf.

Bwyd Cymunedol Dinbych

Mae cyllid wedi galluogi’r grŵp i gyflwyno sesiynau coginio a bwyta ‘Clwb Swper’ wythnosol yng Nghapel Mawr, gan ddod â theuluoedd, unigolion a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i baratoi a rhannu prydau bwyd, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a dysgu am dyfu bwyd.  Bu’r prosiect hefyd yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Uwchradd Dinbych, a fu’n helpu i baratoi prydau bwyd a phlannu hadau yn rhan o sesiynau prynhawn penodol.

Fe helpodd partneriaeth gydag Oergell Gymunedol Dinbych at leihau gwastraff bwyd drwy gynnwys bwyd ffres oedd dros ben mewn i fwydlenni wythnosol, tra bod cynnyrch o’r rhandir cymunedol yn dangos manteision tyfu gydol y flwyddyn.  Roedd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys digwyddiad Clwb Cinio a noson ffilm yn Theatr Twm o’r Nant. Dangosodd adborth o arolwg fod y prosiect wedi gwella hyder a sgiliau coginio, gan annog cyfranogwyr i fwyta mwy  o gynnyrch a bwyd tymhorol, ac fe gafodd effaith cadarnhaol ar les 100% o’r rhai a ymatebodd.

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Dyfrdwy (PTA) 

Mae cyllid Cogog wedi helpu i ddarparu ystod o weithgareddau coginio rhyng-genhedlaeth a chymunedol, gan gynnwys 6 sesiwn “Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn”, hyfforddiant staff a chreu mannau tyfu gyda photiau plannu, gwlâu blodau uchel a sied ardd.  Gweithiodd disgyblion â chogydd o Tyddyn Llan hefyd i baratoi te prynhawn i 70 o westeion.

Daeth y prosiect â disgyblion, teuluoedd ac aelodau Clwb Llangar Cynwyd a Chlwb Ceidiog Llandrillo at ei gilydd drwy gyngherddau, ciniawau ac adloniant Cymreig.  Drwy annog plant i goginio, tyfu bwyd a threulio amser gyda phreswylwyr hŷn, roedd y fenter yn helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, cryfhau cysylltiadau cymunedol a gwneud ffrindiau oes ar draws cenedlaethau.

Tafarn Gymunedol Tremeirchion

Mae’r cyllid grant wedi galluogi datblygiad menter cadw bwyd a rhannu sgiliau sy’n gysylltiedig â’r prosiect “Tyfwch Bethau eich Hun” presennol.  Roedd y grant yn cefnogi adfywio mannau storio, prynu offer prosesu a chadw bwyd ar gyfer hyfforddiant a benthyca cymunedol, raciau cegin graddau bwyd ac adnoddau addysgol.

Mae’r prosiect yn helpu preswylwyr i ddysgu sut i brosesu a storio bwyd dros ben a bwyd sydd wedi ei dyfu gartref gan ddefnyddio offer megis peiriannau dysychu, jariau piclo a chrochanau.  Gan leihau gwastraff bwyd, lleihau ôl-troed carbon a gwella mynediad at gynnyrch iach sydd wedi ei dyfu gartref, mae’r fenter yn anelu at gryfhau cysylltiadau cymunedol, ac mae grwpiau Whatsapp arbennig eisoes wedi’u sefydlu er mwyn galluogi cyfranogwyr i rannu gwybodaeth a chefnogaeth.

Grŵp Ffordd o Fyw Cymuned Llangollen a Neuadd Gymunedol Sant Collen

Mae Cogog yn ariannu darpariaeth “Gofalu am Eich Iechyd”, rhaglen iechyd metabolig cymunedol a fynychwyd gan 40 o drigolion lleol.  Dan arweiniad Meddyg Teulu a Nyrs Practis lleol, roedd y cwrs pedair sesiwn yn cynnig cyfuniad o gyngor ymarferol yn ymwneud â maeth, iechyd metabolig, symud a lles, ynghyd ag arddangosiad coginio gan Steph Mitchell o Gynllun Rhannu Bwyd Llangollen, a sesiwn gan yr hyfforddwr personol lleol, Greg King.

Llwyddodd y rhaglen i ddenu lefel uchel o ymgysylltiad, gyda thros 90% o gyfranogwyr yn nodi bod y sesiynau’n werthfawr neu’n werthfawr iawn.  Roedd yr adborth yn dangos cynnydd mewn hyder o ran dewisiadau bwyd, dealltwriaeth well o iechyd a maeth, a chymhelliant cryf i wneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw.  Roedd y fformat grŵp hefyd yn helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol a chryfhau lles cymunedol, gan arddangos effaith dull cost isel a arweinir gan y gymuned i addysg iechyd.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Tyfu Prestatyn

Llwyddodd y grant Cogog i ddatblygu’r prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd ymhellach gan ddarparu Gardd Eco Gymunedol ddiogel a chroesawgar yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, lle gall pobl o bob oed ddysgu i dyfu bwyd, blodau a pherlysiau.  Mae cynnig mynediad am ddim at hadau, compost, offer a mannau tyfu arbennig wedi gwaredu rhwystrau at gyfranogiad, gan helpu trigolion i ddatblygu sgiliau garddio, hyder a chysylltiadau â natur.

Mae’r prosiect yn dod ag ystod eang o gyfranogwyr ynghyd, o blant 5 oed i oedolion yn eu 80au, gan greu cyfleoedd ar gyfer dysgu rhyng-genhedlaeth a chysylltiadau cymunedol.  Bydd buddsoddi mewn isadeiledd, gan gynnwys twnnel polythen a gasebo, yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor yr ardd, a bydd sesiynau galw heibio rheolaidd yn helpu i wella lles, lleihau unigedd ac yn darparu gofod cefnogol i bobl sy’n wynebu heriau iechyd, gofal a chymdeithasol. 

Cymdeithas Cymuned Marsh

Darparodd y grŵp gwrs bwyd a garddio addysgiadol i helpu pobl leol i ddatblygu sgiliau ymarferol gan gynnwys coginio bwyd iach, maeth, cynllunio prydau a thyfu bwyd.  Dysgodd cyfranogwyr sut i ddeall labeli bwyd, paratoi ryseitiau, defnyddio offer cegin a lleihau gwastraff bwyd, gan ennill profiad ymarferol yn tyfu perlysiau, ffrwythau a llysiau.

Mae’r prosiect wedi cynyddu hyder cyfranogwyr yn gwneud dewisiadau bwyd iach a pharatoi prydau ffres gartref, gan annog nifer o drigolion i ddibynnu llai ar brydau parod.  Mae sesiynau garddio ychwanegol wedi cyflwyno composito ac abwydfeydd, gan helpu cyfranogwyr i leihau eu heffaith amgylcheddol gan ddysgu ffyrdd cynaliadwy i dyfu a defnyddio eu bwyd eu hunain.

Cymdeithas Gymunedol Ardal Pentredŵr

Mae’r cyllid wedi helpu’r Gymdeithas i dalu am gostau cynnal hanfodol dros y gaeaf yn Hwb Pentredŵr, gan gynnwys cyflenwadau ac adnoddau hylendid i gadw ymwelwyr yn gynnes ac yn gyfforddus.  Mae’r gefnogaeth wedi galluogi’r ganolfan i gynnal ac ymestyn ei rhaglen o weithgareddau cymunedol dros fisoedd y gaeaf, gan ddarparu cyfleoedd hanfodol i breswylwyr lleol gysylltu heb orfod teithio ymhell.

O ganlyniad, roedd modd i’r gymdeithas barhau i ddarparu 37 o sesiynau rheolaidd a chynnal 17 o weithgareddau ychwanegol na fyddent wedi cael eu cynnal fel arall.  Roedd y cyllid hefyd yn sicrhau bod modd parhau i ddarparu Clwb Cinio, gan gynnig gofod cynnes a chroesawgar lle gallai pobl ddod at ei gilydd i rannu pryd, lleihau unigedd a chryfhau cysylltiadau cymunedol drwy gydol y gaeaf.

The Willow Collective

Mae’r grant Cogog wedi galluogi Rhaglen Les y Gaeaf 10 wythnos i oedolion ifanc rhwng 16 a 30 oed sy’n teimlo’n unig, dan straen, yn brin o hyder neu sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth.  Ar safle creadigol a garddwriaethol Willow yn y Rhyl, roedd y rhaglen yn cyfuno gweithgareddau ymarferol â gweithgareddau lles, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol yn ystod y gaeaf.

Roedd y prosiect yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu hyder, cadernid a sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, gan gynyddu cysylltiad cymdeithasol ac ymgysylltiad â’r gymuned.  Mae hefyd wedi darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sydd mewn perygl o anweithgarwch economaidd, a’u helpu i gael mynediad at hyfforddiant pellach, cyfleoedd gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth drwy raglenni galwedigaethol a chyflogadwyedd.

Eglwys Neuadd Nant, Prestatyn

Roedd modd i’r Eglwys dalu am gostau cynnal ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau cefnogaeth gymunedol, gan gynnwys Bargeinion Bwyd £3, Clwb Cawl Dydd Sadwrn a sesiynau Mamau a Babanod.  Mae’r mentrau hyn yn darparu bwyd a lluniaeth fforddiadwy neu am ddim a chyfleoedd cymdeithasol ar gyfer preswylwyr lleol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau’r ysgol.

Mae’r Bargeinion Bwyd £3 yn croesawu oddeutu 40 o bobl i ginio dau gwrs, ac mae Clwb Cawl Dydd Sadwrn yn darparu cawl, bara, cacen a lluniaeth i oddeutu 20 o bobl bob wythnos.  Mae’r Grŵp Mamau a Babanod yn cynnig sesiynau cymorth i oddeutu 30 o blant a’u rhieni, a chroesawir brodyr a chwiorydd hŷn yn ystod y gwyliau hefyd.  Gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd gan greu amgylchedd cynnes a chroesawgar lle gall pobl wneud ffrindiau newydd a chryfhau cysylltiadau cymunedol.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Agri-cation

Darparwyd Prosiect Lles Gaeaf 6 wythnos, gan gefnogi 11 o gyfranogwyr drwy sesiynau fferm wythnosol, sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, bwyta’n iach a chysylltiadau cymdeithasol.  Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gwaith fferm awyr agored, tyfu tymhorol, coginio gyda chynnyrch sydd wedi ei dyfu ar y fferm, tasgau cefnogi cymheiriaid a magu hyder, gan ddarparu cludiant o Langollen i sicrhau hygyrchedd.

Mae’r prosiect wedi helpu i leihau unigedd, gwella cadernid a datblygu sgiliau bwyd ymarferol, gyda chyfranogwyr yn dysgu sut i baratoi prydau fforddiadwy a maethlon gan ddatblygu dealltwriaeth well o gynnyrch a maeth bwyd.  Trwy rannu prydau a gweithgareddau ymarferol, roedd ymdeimlad cryf o gymuned, gan helpu cyfranogwyr i ddatblygu hyder, ffurfio cysylltiadau newydd a gwella eu lles cyffredinol dros y gaeaf.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Making Sense

Mae cyllid Cogog wedi galluogi 15 o sesiynau creadigol dan arweiniad artistiaid ar draws llyfrgelloedd y Rhyl, Rhuthun a Chorwen, mewn partneriaeth â Llyw-wyr Cymunedol a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych.  Gan ddefnyddio casgliadau atgofion a ddatblygwyd yn arbennig fel ffyrdd i ddechrau sgyrsiau, roedd y sesiynau’n cyfuno creadigrwydd, rhyngweithio cymdeithasol a lluniaeth mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar.

Roedd y sesiynau hyn ar agor i bawb ac yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd drwy ddarparu cyfleoedd i bobl gysylltu, rhannu atgofion a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.  Elwodd y rhai a fynychodd yn rheolaidd o gefnogaeth gymdeithasol barhaus, gan roi seibiant gwerthfawr a haeddiannol i ofalwyr, ac anogwyd ymwelwyr â’r llyfrgell i ymuno â sgyrsiau a gweithgareddau drwy arddangosfeydd a gwrthrychau diddorol.

Cynllun Rhannu Bwyd Llangollen

Mae cyllid grant wedi ein galluogi i ddarparu 12 o sesiynau “Lles y Gaeaf”, a oedd yn cynnwys dosbarthu parseli bwyd a darparu cymorth a chyngor lles gan sefydliadau partner ar faterion megis iechyd meddwl, tai, cyflogaeth, costau ynni a mynediad digidol.  Gan weithio gyda Lles Cymunedol, roedd y prosiect yn darparu gofod cynnes a chroesawgar lle gallai pobl gael mynediad at gefnogaeth un i un, gweithgareddau grŵp a bwyd.

Ar draws 12 o sesiynau, cafwyd dros 422 o ymweliadau, a darparwyd bwyd a lluniaeth i 542 o bobl.  Mae’r fenter wedi helpu i drawsnewid cynnig cymorth y Cynllun Rhannu Bwyd drwy greu amgylchedd mwy urddasol a chefnogol i bobl a effeithir gan dlodi a’r argyfwng costau byw.

Blossom & Bloom

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026, cynhaliwyd 60 o sesiynau Blossom & Chat yng Nghaffi Molly’s, ynghyd â 2 ddigwyddiad teuluol arbennig i ddathlu Sul y Mamau a’r Pasg.  Darparodd y prosiect ofod cynnes a chroesawgar lle gallai mamau sy’n teimlo’n unig a’u plant ifanc gael mynediad at gymorth, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau lluniaeth am ddim.

Ymgysylltwyd â 110 o deuluoedd drwy’r fenter, ac ategwyd at hyn drwy gynnal 17 o sesiynau grŵp chwarae cymunedol a oedd yn hyrwyddo ymarfer corff a phatrymau iach ar gyfer rhieni a phlant.  Gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau hyn wedi helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, gwella lles a hyder rhieni, cefnogi teuluoedd sy’n wynebu tlodi, a chreu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygiad yn ystod plentyndod cynnar a chysylltiadau cymunedol.

Dyfodol Disglair

Diolch i gyllid Cogog, roedd modd agor cyfleusterau ar ddydd Sadwrn trwy gydol y gaeaf, gan ddarparu Rhaglen Les y Gaeaf i blant, teuluoedd a thrigolion hŷn.  Roedd y gweithgareddau’n cynnwys Clwb Brecwast i bobl ifanc, sesiynau coginio i’r teulu lle bu cyfranogwyr yn paratoi prydau gyda’i gilydd, a sesiynau arbennig ar gyfer pobl hŷn gyda lluniaeth, gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau casglu sbwriel cymunedol, prosiectau garddio, celf a chrefft, bingo, gemau cardiau a gweithdai creu blychau adar.  Gan ddarparu gweithgareddau a lluniaeth am ddim, roedd y fenter yn helpu i wella lles, arwahanrwydd cymdeithasol, cryfhau cysylltiadau cymunedol, ac annog teuluoedd i barhau i goginio prydau iach gyda’i gilydd gartref.

Scroll to Top