Rydym ni’n rhwydwaith o bob math o fentrau bwyd cymunedol, gyda phopeth o gynlluniau bwyd am ddim i randiroedd, caffis cymunedol a archfarchnadoedd cymdeithasol; mae croeso i bob menter fwyd cymunedol. P’run a ydych chi’n cynhyrchu, yn cyflenwi neu’n tyfu bwyd gyda pheth dros ben, gall pob grŵp a menter gymunedol fod yn rhan o rwydwaith bwyd Cogog ac elwa ar y manteision mae’n eu cynnig.
Beth yw Cogog?
Mae Cogog yn bartneriaeth o gyrff traws-sector, amlasiantaethol sy’n cydweithio ar draws Sir Ddinbych i gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â bwyd, gan ddod ag ystod eang o arbenigedd gwerthfawr i gefnogi datblygu mentrau.
Mae’r enw Cogog yn unigryw, wedi’i ffurfio o “Coginio” a “Gogledd”. Roeddem eisiau enw a fyddai’n addas ar gyfer partneriaeth fwyd yng Nghymru pe bai’n tyfu y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych, ac o bosib’ yn troi’n bartneriaeth ranbarthol i Ogledd Cymru dros amser.
Mae mentrau bwyd Cogog wedi’u gwasgaru ledled Sir Ddinbych, yn amrywio o oergelloedd cymunedol i gaffis, perllannau i randiroedd a siopau ail-lenwi i siopau becws.
Gallwch ddod o hyd i’ch menter fwyd leol trwy ein cyfeiriadur ar Dewis Cymru
