Beth yw Cogog?

Mae Cogog yn bartneriaeth o gyrff traws-sector, amlasiantaethol sy’n cydweithio ar draws Sir Ddinbych i gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â bwyd, gan ddod ag ystod eang o arbenigedd gwerthfawr i gefnogi datblygu mentrau.

Mae’r enw Cogog yn unigryw, wedi’i ffurfio o “Coginio” a “Gogledd”. Roeddem eisiau enw a fyddai’n addas ar gyfer partneriaeth fwyd yng Nghymru pe bai’n tyfu y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych, ac o bosib’ yn troi’n bartneriaeth ranbarthol i Ogledd Cymru dros amser.

Cefndir a Chyd-destun

Ym mis Tachwedd 2021, crëwyd y Bwrdd Partneriaeth am y tro cyntaf gyda’r amcanion canlynol:

  • Datblygu dull partneriaeth i ddatblygu cymaint â phosib’ ar sgiliau ac adnoddau grwpiau a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn Sir Ddinbych, i fynd i’r afael â materion gwastraff bwyd a thlodi bwyd.
  • Lleihau gwastraff bwyd yn Sir Ddinbych trwy ddatblygu mentrau bwyd dros ben cynaliadwy.
  • Datblygu prosiectau a gwasanaethau cynaliadwy sy’n galluogi i bobl gael gafael ar fwydydd mwy maethlon a fforddiadwy.
  • Sefydlu cynllun gwaith i gynnal a monitro’r gweithgareddau hyn yn llwyddiannus, gan roi cymorth a chyfarwyddyd i dimau cyflawni gweithredol.

Wedi’i ariannu gan

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Sir Ddinbych
Scroll to Top